10 Fai 2022
Annwyl Jenny,
Craffu ar waith y Comisiynwyr
Diolch i chi am eich llythyr dyddiedig 7 Ebrill 2022.
Trafododd y Pwyllgor eich llythyr yn ein cyfarfod diweddaraf ar 27 Ebrill 2022, ynghyd â’ch adroddiad a ddaeth gydag ef. Cafodd Argymhelliad 1 eich adroddiad ei nodi gan y Pwyllgor a chytunwyd y caiff gwaith craffu pellach ar waith Comisiynwyr Cymru ei gynnal yn ystod tymor yr hydref 2022, fel rhan o waith craffu’r Pwyllgor ar gyfrifon blynyddol.
Byddaf yn ysgrifennu atoch yn ddiweddarach yn y flwyddyn gyda gwybodaeth bellach am y sesiynau craffu arfaethedig.
Yn gywir,
Mark Isherwood
AS
Cadeirydd y Pwyllgor